Discover more
Mwy am Forlan Elli

Awyr Iach, Lle Agored, Bywyd Braf

Partneriaeth flaenllaw rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin yw Cyd-fenter Arfordir Llanelli i roi strategaeth adfywio uchelgeisiol ar waith ym Morlan Elli.

Rydym yn creu lle bywiog a modern y gall pobl fwynhau gweithio, byw a chwarae ynddo. Amgylchedd lle mae adeiladau swyddfa chwaethus a chyfoes, datblygiadau tai deniadol, ynghyd â bwytai a bariau bywiog a phob math o gyfleusterau diwylliannol a hamdden eraill yn cyd-eistedd yn gyfforddus o amgylch llecynnau o ddŵr disglair a pharcdir gwyrdd cyfoethog.

Mae llawer iawn wedi’i wneud yn barod ar nifer o’r safleoedd hyn yn cynnwys buddsoddiad seilwaith mawr, ffordd gyswllt yr arfordir; datblygiadau preswyl yn Noc y Gogledd a Machynys; y cwrs golff a gynlluniwyd gan Jack Nicklaus; datblygiad swyddfeydd Dragon 24 yn Noc y Gogledd; adnewyddu’r harbwr ac adeiladu Parc Dyfaty ym Mhorth Tywyn sydd wedi’i osod 100%.

Mae tîm y Gyd-fenter wrthi’n gweithio ar hyn o bryd ar gynigion ym Mhorth Tywyn, Llynnoedd Delta a Doc y Gogledd, Llanelli.


Mae Morlan Elli mewn lleoliad delfrydol gyda nifer o atyniadau poblogaidd gerllaw. Mae’r rhain yn cynnwys y Cwrs Golff a gynlluniwyd gan Jack Nicklaus a’r Clwb Gwledig ym Machynys; stadiwm rygbi modern tîm byd-enwog Scarlets Llanelli; Parc Gwledig Pen-bre a thraeth arobryn saith milltir o hyd Cefn Sidan; a Chwrs Rasio Ffos Las sy’n denu miloedd o ymwelwyr yn rheolaidd.

Gerllaw mae Parc Trostre a Pharc Pemberton wedi hen ennill eu plwyf yn gyrchfannau siopa o bwys sy’n denu siopwyr o bob rhan o Dde Cymru. Mae Canol Tref Llanelli wedi denu dros £60 miliwn drwy nifer o gynlluniau.


Datblygu a buddsoddi gofalus fu conglfaen yr ymdrech i adfywio’r ardal, ynghyd â ffrwyth gweladwy i lafur y sawl sydd eisiau buddsoddi yma – mae prosiectau yn cael eu cynllunio, eu gweithredu a’u cyflawni mewn gwir bartneriaeth rhwng y buddsoddwr a’r Gyd-fenter.

Mae gweithgareddau Cyd-fenter Morlan Elli wedi trawsnewid tirluniau a morluniau rhan o’r byd a elwir yn aml yn “drysor cudd”.