Discover more
Y Forlan ar Waith

Lle mae busnes yn fwy o bleser

Mae gweithleoedd modern o'r radd flaenaf ond yn rhan o'r hafaliad ar gyfer llwyddiant sy'n cael ei greu yma – mae hwn yn amgylchedd ysbrydoledig lle bydd byw a gweithio, mwynhau a chyflawni, ymlacio a chreu, yn mynd law yn llaw.

Mae gweithwyr yn y rhan hon o'r wlad yn enwog am eu cynhyrchiant uchel a'u parodrwydd i godi'n frwdfrydig i ddisgwyliadau uchel cyflogwyr heriol heddiw. Trwy gofleidio technegau, sgiliau ac arferion gwaith newydd, maent wedi dangos eu hunain 

Bod yn gystadleuol, yn alluog ac yn hyblyg.

Bydd Pentre Awel yn cael ei ddatblygu ar dir Cyd-Fenter. Mae'r datblygiad hwn yn rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe a bydd yn darparu ystod o gyfleusterau busnes, hyfforddiant, iechyd a lles mewn tirwedd deniadol ar lan y llyn. Un o unarddeg o brosiectau nodedig o dan raglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe, a fydd yn arwain at amcangyfrif o £200 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn yr ardal, a rhagwelir y bydd yn creu dros 1,800 o swyddi.

 

Pentre Awel 2022 (Cymraeg) from Cyngor Sir Gâr | Carms Council on Vimeo.