Discover more

Lleoliad unigryw ar lan y dŵr

Ac yntau’n cael ei ystyried yn ganolbwynt Morlan Elli, mae safle deunaw erw Doc y Gogledd ynghanol Parc Arfordirol y Mileniwm ac mae’n edrych allan dros Fae Caerfyrddin a’r doc ar ei newydd wedd.

Mae felly’n cynnig lleoliad unigryw ar lan y dŵr sy’n sicr o gynnig amgylchedd deniadol ar gyfer pob math o ddefnyddiau.

Mae’r prif ddatblygiadau glan y dŵr yn cynnwys gofod swyddfa masnachol ar ffurf canolfan Dragon 24 sydd newydd ei gorffen ac sy’n cynnig 30,000 troedfedd sgwâr o adeiladau BREEAM Da Iawn ac amgylchedd gwaith heb ei ail ar gyfer busnesau modern.

Mae cartrefi newydd wedi cael eu codi’n barod ar lan y dŵr sy’n cynnig golygfeydd trawiadol dros yr aber. Mae’r Ganolfan Ddarganfod – adeilad amlwg sy’n cynnwys bwyty, gwybodaeth i ymwelwyr, parlwr hufen iâ a chyfleusterau cyfarfod – wedi’i lleoli ynghanol y safle gyda phromenâd yn ymestyn o’i blaen.

Mae’r Sosban yn fwyty o fri, a gwblhawyd ym mis Awst 2011. Roedd y cynllun gwerth £2.3m yn cynnwys adnewyddu adeilad rhestredig Gradd II yr hen dŷ pwmp o’r 19eg ganrif a fu’n adfail ers y 1950’au, ac mae’r bwyty wedi ffynnu ers ei sefydlu.

Mae Doc y Gogledd wedi esblygu’n organig dros y blynyddoedd, gan greu nifer o gyfleoedd datblygu amrywiol. Tyfodd o dipyn i beth yn gyrchfan naturiol i ymwelwyr.

Mae caniatâd cynllunio ar waith ar gyfer 210 o unedau preswyl.

 

Llanelli Waterside from .Optimwm Productions on Vimeo.