Discover more

Ymgynghoriad cyn gwneud cais ar gyfer y bwriad i ddatblygu gwesty 140 gwely gyda maes parcio cysylltiedig, ffyrdd mynediad, gwaith tirweddu a gwaith seilwaith.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (yr Ymgeisydd), gyda chefnogaeth Arup, yn cynnal ymgynghoriad statudol 28 diwrnod ar gynigion ar gyfer adeiladu gwesty 140 gwely a gwaith cysylltiedig ar dir i'r gorllewin o Rodfa Nicklaus, Machynys, Llanelli.

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 9am ar 11 Ionawr a 11.59pm ar 8 Chwefror 2021.

Bydd sylwadau'n cael eu hadolygu a'u hystyried gan yr Ymgeisydd cyn i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol (gyda'r holl faterion a gadwyd yn ôl) gael ei gwblhau a'i gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (Cyngor Sir Caerfyrddin). Bwriedir i hyn ddigwydd yng Ngwanwyn 2021.

Gellir lawrlwytho'r dogfennau ategol ar gyfer y broses ymgynghori drwy'r dolenni isod.