Awyr Iach, Lle Agored, Bywyd Braf
Mae prosiect Glannau Llanelli yn Strategaeth Adfywio uchelgeisiol ar gyfer arfordir Llanelli, a ymgymerir gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Rydym yn creu lle bywiog a modern lle gall pobl fwynhau gweithio, byw a chwarae. Amgylchedd lle mae adeiladau swyddfa chwaethus a chyfoes, datblygiadau tai deniadol, yn ogystal â bwytai, bariau bywiog a llu o gyfleusterau diwylliannol a hamdden eraill, yn eistedd yn gyfforddus gyda'i gilydd o amgylch ehangderau o ddŵr pefriog a pharcdir gwyrddlas. Mae cynnydd enfawr wedi'i wneud ar lawer o'r safleoedd hyn gan gynnwys buddsoddiad seilwaith mawr, y ffordd gyswllt Arfordirol; datblygiadau preswyl yn Noc y Gogledd a Machynys; cwrs golff a ddyluniwyd gan Jack Nicklaus; datblygiad swyddfa Dragon 24 yn Noc y Gogledd; adnewyddu'r harbwr ac adeiladu Parc Dyfatty sydd wedi'i osod 100% ym Mhorth Tywyn. Ar hyn o bryd mae tîm Glannau Llanelli yn gweithio ar gynigion ym Mhorth Tywyn, Machynys a Doc y Gogledd, Llanelli.
Mae Glannau Llanelli mewn lleoliad delfrydol gyda nifer o atyniadau gwych gerllaw. Mae'r rhain yn cynnwys y Cwrs Golff a'r Clwb Gwledig a ddyluniwyd gan Jack Nicklaus ym Machynys; stadiwm rygbi o'r radd flaenaf ar gyfer y Sgarlets Llanelli byd-enwog; Parc Gwledig Pen-bre a thraeth Cefn Sidan sydd wedi ennill gwobrau, sy'n saith milltir o hyd; a Chwrs Rasio Ffos Las sy'n denu ymwelwyr yn gyson yn eu llu.
Gerllaw, mae Parc Trostre a Pharc Pemberton wedi'i sefydlu'n gadarn fel cyrchfannau siopa gwych y mae pobl o bob cwr o Dde Cymru yn ymweld â nhw. Mae Canol Tref Llanelli wedi denu dros £60 miliwn trwy nifer o fentrau.
Mae datblygu a buddsoddi dan reolaeth wedi bod yn gonglfaen adfywio'r ardal, ynghyd ag enillion gweladwy i'r rhai sy'n dymuno buddsoddi yma. Mae gweithgareddau prosiect Glannau Llanelli wedi gwella tirweddau a morweddau rhan o'r byd a elwir yn aml yn "berl gudd" yn sylweddol.